Senedd 2026: argymhellion Prospect ar un olwg
Cyn etholiadau’r Senedd ar 7 Mai 2026, mae Prospect yn galw ar bob plaid ac ymgeisydd i flaenoriaethu gweithwyr a buddsoddi mewn swyddi diogel o ansawdd uchel.
Mae Prospect yn wleidyddol annibynnol, ond byddwn ni bod amser yn ymgyrchu dros fuddiannau ein haelodau. Edrychwch ar ein blaenoriaethau polisi ar gyfer yr etholiadau isod, sydd wedi’u llunio gan ein haelodau sydd yn hanfodol i ddyfodol Cymru.
1.Diogelu gwaith y sector cyhoeddus a thegwch yn y gwaith
Gofyniadau allweddol
Gwaith teg a sicrwydd swydd: Diogelu swyddi rhag toriadau a chael eu rhoi ar gontractau allanol, sicrhau nad yw ehangu’r Senedd yn gorlwytho staff, a chynllunio’r gweithlu’n well.
Cyflog ac amodau: Darparu cyflog sy’n diogelu rhag chwyddiant, cryfhau gweithio a datblygu hyblyg, a gwerthfawrogi swyddi arbenigol.
Llais yr undeb: Gwarantu mynediad i undebau, amser cyfleuster ac ymgynghoriad ystyrlon — yn enwedig ynghylch deallusrwydd artiffisial a rhaglenni newid.
Cydraddoldeb a Chynhwysiant: Defnyddio asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, mynd i’r afael â bylchau cyflog, a sicrhau gweithleoedd diogel a chynhwysol.
Mae gwasanaethau cyhoeddus yn dibynnu ar weithlu sy’n cael ei barchu a’i drin yn deg i sicrhau Cymru gryfach.
2. Diogelu Treftadaeth Cymru
Gofyniadau allweddol
Buddsoddi yn y sector: Gwrthdroi blynyddoedd o doriadau, cyflwyno cyllid aml-flwyddyn, a chyllid uniongyrchol Ardoll Ymwelwyr i sefydliadau treftadaeth.
Diogelu sgiliau: Atal dirywiad swyddi arbenigol, cryfhau prosesau cynllunio ar gyfer olyniaeth a buddsoddi mewn prentisiaethau.
Cyflog ac amodau: Darparu cyflog sy’n diogelu rhag chwyddiant a chydraddoldeb â gweithwyr eraill yn y sector cyhoeddus, mynd i’r afael â bylchau cyflog a strwythurau hen ffasiwn.
Gwaith teg a hawliau undebau: Cefnogi mynediad i undebau, cydfargeinio, a safonau gwaith teg sy’n atal gwaith achlysurol.
Mae tanariannu hirdymor yn bygwth asedau diwylliannol Cymru a’r gweithlu medrus sydd ei angen i’w diogelu.
3. Diogelu diwydiannau creadigol Cymru
Gofyniadau allweddol
Buddsoddiad: Cynyddu cyllid diwylliannol, gydag enillion economaidd cryf.
Ymgysylltu: Cynnal sgyrsiau rheolaidd ag undebau creadigol a’u cynnwys nhw yn y gwaith o lywodraethu’r sector.
Sgiliau: Ehangu CULT Cymru a mentrau tebyg i feithrin sgiliau a llesiant.
Gwaith teg: Gwella arferion cyflogi a safonau’r gweithle drwy gydweithio ag undebau.
Mae diwydiannau creadigol yn rhoi hwb i swyddi, diwylliant iaith ac enw da Cymru yn fyd-eang – ac mae angen cefnogaeth gref a theg ar eu gweithlu.
4. Diogelu Dyfodol gwyddonol Cymru
Gofyniadau allweddol
Pontio teg: Cydnabod gwyddoniaeth fel rhywbeth sy’n sbarduno twf, buddsoddi mewn arloesedd glân/digidol a sicrhau bod ymchwil a datblygu cyhoeddus yn sicrhau manteision gwaith teg.
Diogelu sgiliau: Cefnogi piblinellau STEM, atal adleoli dramor, a diogelu swyddi arbenigol.
Cyflog ac amodau: Sicrhau cyflog teg, strwythurau tryloyw, a dilyniant.
Llais yr undeb: Cryfhau cydnabyddiaeth, sicrhau bod gweithwyr yn cyfrannu at waith deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio, a hyrwyddo partneriaeth gymdeithasol.
Pam mae hyn yn bwysig
Mae arweinyddiaeth wyddonol Cymru yn dibynnu ar ddiogelu a gwerthfawrogi ei gweithlu medrus.
5. Ynni glân a Phontio teg
Gofyniadau allweddol
Pontio teg: Cyd-ddylunio cynlluniau pontio gydag undebau, cefnogi gweithwyr tanwydd ffosil a blaenoriaethu cadwyni cyflenwi lleol.
Swyddi o ansawdd uchel: Creu swyddi diogel ac undebol ym maes ynni adnewyddadwy a niwclear, gydag amodau gwerth cymdeithasol.
Gwaith teg: Gwarantu cyflog teg, diogelwch, dilyniant a chydraddoldeb ar draws sectorau.
Hawliau undebau: Sicrhau bod undebau yn rhan o’r holl waith cynllunio ar gyfer pontio a rheoli newid technegol gyda, ac i weithwyr.
Mae newid teg, dan arweiniad gweithwyr i sero net yn osgoi ailadrodd anghydraddoldebau’r gorffennol ac yn cryfhau dyfodol ynni Cymru.
6. Buddsoddi yn y Gwasanaeth Sifil
Gofyniadau allweddol
Cryfhau’r gwaith o gynllunio’r gweithlu, yn enwedig mewn swyddi STEM/digidol.
Gwrthdroi toriadau cyflog mewn termau real gyda chynnydd sy’n diogelu rhag chwyddiant .
Lleihau dibyniaeth ymgynghorwyr drwy feithrin sgiliau mewnol.
Ymgorffori llais yr undeb drwy bartneriaeth gymdeithasol wrth ddiwygio.
Ni all Cymru gyflawni uchelgeisiau Senedd sy’n tyfu, na mynd i’r afael â heriau sylweddol heb wasanaeth sifil medrus sy’n cael ei ariannu’n briodol.